Matthew 23:31 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac velly ydd ych yn testiolaethy y chwy ych hun ain ych bot yn blant ir ei a laddawð y Prophwyti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Felly y tystiolaethwch i’ch hunain, mai meibion ydych i’r rhai a laddasant y prophwydi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac felly tystiolaethwch amdanoch eich hunain mai meibion ydych i’r rhai a laddodd y proffwydi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i'r rhai a laddasant y proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly! Dych chi'n cydnabod eich bod yn ddisgynyddion i'r rhai lofruddiodd y proffwydi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydych yn tystio yn eich erbyn eich hunain eich bod yn blant i'r rhai a lofruddiodd y proffwydi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O ganlyniad, yr ydych yn tystiolaethu am danoch eich hunain eich bod yn feibion y rhai a lofruddiasant y Proffwydi.