Matthew 23:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Erwydd paam nycha, ydd wyf yn d anvon atoch Prophwyti, a’ doethion, ac Scrivenyddion, ar ei a hanynt a yscyrsiwch yn eich synagogae, ac a erlidiwch o dref i dref,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am hyn, wele, Myfi wyf yn danfon attoch brophwydi a doethion ac ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch; a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich sunagogau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny wele fi’n anfon atoch broffwydi a doethion ac ysgrifenyddion; rhai ohonynt a leddwch a’u croeshoelio, ac eraill a ffrewyllwch yn eich synagogau a’u herlid o ddinas i ddinas;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi, a doethion, ac ysgrifenyddion: a rhai ohonynt a leddwch, ac a groeshoeliwch; a rhai ohonynt a ffrewyllwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n anfon proffwydi atoch chi, a phobl ddoeth ac athrawon. Byddwch yn lladd rhai ohonyn nhw a'u croeshoelio; byddwch yn gwneud i eraill ddioddef drwy eu chwipio yn eich synagogau. Byddwch yn eu herlid o un lle i'r llall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny dyma fi'n anfon atoch broffwydi a rhai doeth a rhai dysgedig; byddwch yn lladd ac yn croeshoelio rhai ohonynt, ac yn fflangellu eraill yn eich synagogau, a'u herlid o un dref i'r llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn, Wele, yr wyf yn anfon atoch Broffwydi, a Doethion, ac Ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o ddinas i ddinas;