Matthew 23:35 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
mal y del arnoch chwi yr oll waed gwirian a’r a ellyngwyt ar y ddaear, o waet Abel gyfiawn yd yn‐gwaet Zacharias vap Barachias, yr hwn a laðesoch rhwng y Templ a’r allor.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac a erlidiwch o ddinas i ddinas, fel y delo arnoch yr holl waed cyfiawn a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y cyssegr a’r allor.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel y delo arnoch chwi bob tywallt gwaed rhai cyfiawn ar y ddaear o waed Abel gyfiawn hyd waed Sacharïas fab Barachïas a laddasoch rhwng y cysegr a’r allor.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a'r a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sachareias fab Baracheias, yr hwn a laddasoch rhwng y deml a'r allor.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, chi fydd yn gyfrifol am yr holl bobl ddiniwed sydd wedi eu lladd ar y ddaear, o Abel (wnaeth ddim o'i le), hyd Sechareia fab Beracheia, gafodd ei lofruddio gynnoch chi yn y deml rhwng y cysegr a'r allor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, ar eich pen chwi y bydd yr holl waed diniwed a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd at waed Sechareia fab Beracheia, a lofruddiasoch rhwng y cysegr a'r allor.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel y delo arnoch chwi bob gwaed cyfiawn a dywelltir ar y ddaear, o waed Abel y Cyfiawn hyd at waed Zechariah, mab Barachiah, yr hwn a lofruddiasoch rhwng y Cyssegr a'r Allor.