Matthew 23:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Caerusalem, Caerusalem, yr hon wyt yn lladd y Prophwyti, ac yn llapyddiaw yr ei a dd anvonir atat’, pa sawl gwaith y myneswn gasclu dy blant ynghyt, megys y cascla yr iar hei chywion y dan hei adanedd, ac ny’s mynech?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat, Pa sawl gwaith y mynnais gasglu ynghyd dy blant, Yn y modd y cyd-gasgl giar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni fynnech! Wele, gadewir i chwi eich tŷ yn anghyfannedd, canys dywedaf wrthych, Myfi ni welwch ddim o hyn allan, nes dweyd o honoch, Bendigedig yw ’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gaersalem, Gaersalem, sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio'r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“O! Jerwsalem, Jerwsalem! Y ddinas sy'n lladd y proffwydi a llabyddio'r negeswyr mae Duw'n eu hanfon ati. Mor aml dw i wedi hiraethu am gael casglu dy blant at ei gilydd, fel mae iâr yn casglu ei chywion dan ei hadenydd — ond doedd gen ti ddim diddordeb!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Jerwsalem, Jerwsalem, tydi sy'n lladd y proffwydi ac yn llabyddio'r rhai a anfonwyd atat, mor aml y dymunais gasglu dy blant ynghyd, fel y mae ir yn casglu ei chywion dan ei hadenydd, ond gwrthod a wnaethoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai sydd wedi eu danfon atat, pa sawl gwaith yr ewyllysiwn gasglu dy blant yn nghyd, yr un modd ag y casgl iar ei chywion dan ei hadenydd, ac nid ewyllysiech chwi!