Matthew 23:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit wy rwymant veichiae trymion, ac anhawdd ei dwyn, ac gesodant ar yscwyddae dynion, ac wy y vnain ni d ysmutant ac vn oei bysedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A rhwymant feichiau trymion ac anhawdd eu dwyn, a rhoddant hwynt ar ysgwyddau dynion; a hwy eu hunain, â’u bys nid ewyllysiant eu syflyd hwy.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A rhwymant feichiau trymion a’u dodi ar ysgwyddau dynion, a hwy eu hunain ni fynnant eu symud â’u bys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o'u bysedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n gosod beichiau trwm ar ysgwyddau pobl, rheolau crefyddol sy'n eu llethu nhw, ond wnân nhw ddim codi bys bach i helpu pobl i gario'r baich.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, a'u gosod ar ysgwyddau pobl, ond nid ydynt hwy eu hunain yn fodlon codi bys i'w symud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y maent yn rhwymo yn nghyd feichiau trymion [ac anhawdd eu dwyn], ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; eithr hwy eu hunain ni fynant eu syflyd â'u bys.