Matthew 23:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ei oll weithredoedd a wnant er ei gweled o ddynion: can ys llydany ei cadwadogion, a wnant, ac estyn empl yn ae ei gwiscoedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’u holl weithredoedd a wnant er mwyn eu gweled gan ddynion, canys lledanant eu phylacterau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’u holl weithredoedd a wnânt er mwyn cael eu gweled gan ddynion; canys lledant eu phylacterau a helaethant eu taselau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Maen nhw'n gwneud popeth er mwyn dangos eu hunain. Maen nhw'n gwneud yn siŵr fod y blychau gweddi ar eu breichiau a'u talcennau yn amlwg, a'r taselau hirion ar eu clogyn yn dangos mor dduwiol ydyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyflawnant eu holl weithredoedd er mwyn cael eu gweld gan eraill. Y maent yn gwneud eu phylacterau'n llydan ac ymylon eu mentyll yn llaes;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond eu holl weithredoedd y maent yn wneuthur er eu gweled gan ddynion, canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn helaethu y siobynau.