Matthew 24:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’R Iesu a ddynnodd allan ac a aeth i ffordd o’r Tem p l, a’ei ddiscipulon a ddaethan attaw y ddangos iddo adailiadaeth y Tem p l.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned o’r Iesu allan o’r deml, ar Ei ffordd yr oedd, a daeth Ei ddisgyblion i ddangos Iddo adeiladau y deml.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aeth yr Iesu allan o’r deml a mynd i’w ffordd, a daeth ei ddisgyblion ato i ddangos iddo adeiladau’r deml.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddisgyblion a ddaethant ato, i ddangos iddo adeiladau'r deml.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth Iesu allan o'r deml, a phan oedd ar ei ffordd oddi yno daeth ei ddisgyblion ato i dynnu ei sylw at adeiladau'r deml.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu gan ddyfod allan oedd yn myned ymaith oddiwrth y Deml: a'i Ddysgyblion a ddaethant i ddangos iddo adeiladau y Deml.