Matthew 24:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Euangel hon y deyrnas a precethir trwy’r oll vyt, yn testoliaeth i’r oll genedloedd: ac yno y daw ’r tervyn,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas yn yr holl fyd, yn dystiolaeth i’r holl Genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phregethir yr efengyl hon am y deyrnas trwy’r byd cyfan er tystiolaeth i’r holl genhedloedd, ac yna daw y diwedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy'r holl fyd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw'r diwedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe gyhoeddir yr Efengyl hon am y deyrnas drwy'r byd i gyd fel tystiolaeth i'r holl genhedloedd, ac yna y daw'r diwedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Efengyl hon y Deyrnas a bregethir yn yr holl fyd preswyliedig, er tystiolaeth i'r holl genedloedd; ac yna y daw y diwedd.