Matthew 24:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny pan weloch ffieidtra y diffeithwch, yr hyn a ddywedpwyt y gan Ddaniel Brophwyt, yn sefyll yn y lle sanctaidd (y nep ai darlle n o, ystyried)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, pan weloch y ffieidd-dra anghyfaneddus, yr hwn a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan weloch, ynteu, ffieiddbeth y difrod, y dywedwyd amdano trwy Ddaniel y proffwyd, yn sefyll mewn lle santaidd, (a ddarlleno, ystyried),
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny pan weloch y ffieidd‐dra anghyfanheddol, a ddywedwyd trwy Daniel y proffwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarlleno, ystyried;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Felly, pan welwch 'y ffieiddbeth diffeithiol', y soniodd y proffwyd Daniel amdano, yn sefyll yn y lle sanctaidd" dealled y darllenydd
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pan gan hyny y gwelwch ffieiddbeth yr annghyfannedd-dra a ddywedwyd trwy Daniel y Proffwyd, yn sefyll yn y lle Sanctaidd (y neb a ddarlleno, ystyried).