Matthew 24:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o ðyeithyr byrhay y dyddiae hyny, ny’s iacheir neb cnawdd: eithyr er mwyn yr etholedigion y byrheir y dyddiae hyny.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac oni bai byrhau’r dyddiau hyny, ni fyddai gadwedig un cnawd oll; ond o achos yr etholedigion byrheir y dyddiau hyny.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac oni bai gwtogi’r dyddiau hynny, nid achubesid un cnawd; eithr er mwyn yr etholedigion cwtogwyd y dyddiau hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac oni bai fyrhau'r dyddiau hynny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi eu dewis.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac oni bai fod y dyddiau hynny wedi eu byrhau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phe na fyrhawyd y dyddiau hyny, ni fuasai gadwedig un cnawd oll; ond er mwyn yr Etholedigion, fe fyrheir y dyddiau hyny.