Matthew 24:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno a’s dywait nep wrthych, Wele, lly’ma Christ, nei ll’yna, na chredwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr amser hwnw, os wrthych y dywaid neb, Wele, llyma y Crist, neu Llyma, na chredwch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pryd hwnnw os dywed neb wrthych, ‘Dyma’r Crist,’ neu ‘Yma,’ na chredwch;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma Grist, neu llyma; na chredwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, os dywed rhywun wrthych, 'Edrych, dyma'r Meseia', neu 'Dacw ef', peidiwch 'i gredu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna os dywed neb wrthych, Wele, yma y mae y Crist, neu, Yma, na chredwch.