Matthew 24:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan hyny a’s dywedant, wrthych, Nycha, y mae ef yn y diffaith, nac ewch allan, Nycha y mae ef mewn dirgelfae, na chredwch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, dywedant wrthych, Wele, yn yr anialwch y mae, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd, na chredwch;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os dywedant wrthych, ynteu, ‘Dyma fo yn y diffeithwch,’ nac ewch allan; ‘Dyma fo yn yr ystafelloedd,’ na chredwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffeithwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, os dywedant wrthych, 'Dyma ef yn yr anialwch', peidiwch mynd allan; neu os dywedant, 'Dyma ef mewn ystafelloedd o'r neilltu', peidiwch 'u credu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hyny, os dywedant wrthych, Wele, y mae Efe yn y Diffaethwch, nac ewch allan; Wele, yn yr ystafelloedd dirgel, na chredwch.