Matthew 24:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd eisteddai ef ar vynyth olivar y daeth ei ddsscipulon attaw o’r neilltu, gan ddywedyt, Maneg y ni pa bryd y byð y pethae hyn? a’ pha arwydd vydd oth ddyvodiat, ac o ddiwedd y byd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth eistedd o Hono ar fynydd yr Olewydd, daeth Ei ddisgyblion Atto o’r neilldu, gan ddywedyd, Dywaid wrthym, pa bryd y mae’r pethau hyn i fod, a pha beth fydd arwydd Dy ddyfodiad ac o ddiwedd y byd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oedd yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, daeth y disgyblion ato o’r neilltu a dywedyd, “Dywed wrthym, pa bryd y bydd y pethau hyn? A beth fydd yr arwydd o’th ddyfodiad ac o derfyniad yr oes?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, y disgyblion a ddaethant ato o'r neilltu, gan ddywedyd, Mynega i ni, pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd o'th ddyfodiad, ac o ddiwedd y byd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel yr oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd daeth y disgyblion ato o'r neilltu a gofyn, "Dywed wrthym pa bryd y bydd hyn, a beth fydd yr arwydd o'th ddyfodiad ac o ddiwedd amser?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Efe yn eistedd ar fynydd yr Olew‐wydd, y Dysgyblion a ddaethant ato o'r neilldu, gan ddywedyd, Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? A pha beth fydd arwydd dy Ddyfodiad ac o Ddiwedd y byd?