Matthew 24:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno yr ymddengys arwydd Map y dyn yny nef: ac yno y bydd oll llwythae ’r ddayar yn ewynvanu, ac wy a welant Vap y dyn yn dyvot yn wybre nae ’r nef, y gyd a nerth a’ gogoniant mawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaear: a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau’r nef gyda nerth a gogoniant mawr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef, ac yna y galara holl lwythau’r ddaear, ac y gwelant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau’r nef gyda gallu a gogoniant mawr;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y dyn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y dyn yn dyfod ar gymylau y nef, gyda nerth a gogoniant mawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r pryd hwnnw ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y nef; y pryd hwnnw bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru, a gwelant Fab y Dyn yn dyfod ar gymylau'r nef gyda nerth a gogoniant mawr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yna yr ymddengys arwydd Mab y Dyn yn y Nef: ac yna y galara holl lwythau y ddaear; a hwy a welant Fab y Dyn yn dyfod ar gymmylau y Nef, gyda gallu a gogoniant mawr.