Matthew 24:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a dd enfyn ei Angelion gyd a llef vawr yr vtcorn, ac wy a gaselant yr etholedigion yn‐cyd, o’r pedwar gwynt ac o’r eithafoedd b ygylydd i’r nefoedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a denfyn Efe Ei angylion gydag udgorn mawr-leisiog, a chasglant ynghyd Ei etholedigion Ef o’r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac fe enfyn ei angylion ag utgorn mawr, a chynullant ei etholedigion o’r pedwar gwynt, o gyrrau’r nefoedd bwygilydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddenfyn ei angylion â mawr sain utgorn; a hwy a gasglant ei etholedigion ef ynghyd o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd utgorn yn canu ffanffer uchel a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac fe anfona ei angylion wrth sain utgorn mawr, a byddant yn cynnull ei etholedigion o'r pedwar gwynt, o un eithaf i'r nefoedd hyd at y llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Efe a ddenfyn ei Angelion gydag udgorn o sain uchel, a hwy a gasglant ei Etholedigion ef o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y Nefoedd hyd eu heithafoedd hwynt.