Matthew 24:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Dyscwch weithian barabol y ffycuspren: pan yw ei gangen yn dyner, a’ei ddail yn tarddy, ys gwyddoch vot yr haf yn agos.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac oddiwrth y ffigysbren dysgwch ei ddammeg. Pan yw ei gangen yn awr yn dyner, ac ei ddail a fwrw efe allan,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oddi wrth y ffigysbren dysgwch ei ddameg; wedi’r êl ei gangen weithian yn ir, a’r dail yn tarddu, chwi wyddoch fod yr haf yn agos;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren; Pan yw ei gangen eisoes yn dyner, a'i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dysgwch wers oddi wrth y ffigysbren. Pan fydd ei gangen yn ir ac yn dechrau deilio, gwyddoch fod yr haf yn agos.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond dysgwch y ddammeg oddiwrth y ffigysbren: Pan yw ei gangen eisioes yn dyner, ac yn bwrw allan ddail, chwi a wyddoch fod yr Haf yn agos.