Matthew 24:39 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ny wybuont dim, yn y ddeuth y diliv a’ei cymeryd wy oll y ffordd, ac velly vydd dyvodiat Map y dyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni wybuant nes y daeth y diluw ac y cymmerth hwynt oll; felly y bydd dyfodiad Mab y Dyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cipio hwynt oll, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw, a'u cymryd hwy oll ymaith; felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac ni wybuant hyd oni ddaeth y Diluw a'u cymmeryd hwynt oll ymaith, felly y bydd Dyfodiad Mab y Dyn.