Matthew 24:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac e vydd i chwi glywed am ryveloeð a’ sonion am ryveloedd: gwelwch na’ch trolloder: can ys dir yw bot cyflavvni y pethae hyn oll, eythyr na d oes etwa dervyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr ydych ar fedr clywed am ryfeloedd, a son am ryfeloedd. Edrychwch na chyffroer chwi, canys rhaid iddynt ddigwydd; ond nid etto y mae’r diwedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chewch glywed am ryfeloedd a sôn am ryfeloedd; gwelwch na’ch cythrybler; canys rhaid eu dyfod, eithr nid yw’r diwedd eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn oll; eithr nid yw'r diwedd eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu — mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Byddwch yn clywed am ryfeloedd a sn am ryfeloedd; gofalwch beidio chyffroi, oherwydd rhaid i hyn ddigwydd, ond nid yw'r diwedd eto.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bydd i chwi glywed am ryfeloedd a son am ryfeloedd: edrychwch, na ddychryner chwi, canys rhaid iddynt fod, ond nid yw y diwedd etto.