Matthew 24:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ich rhoddant chvvi ich gorthrymy, ac i’ch lladdant, ac ich caseir gan yr oll genedloedd er mwyn vy Enw i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y traddodant chwi i orthrymder,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna traddodant chwi i’ch cystuddio a lladdant chwi, a byddwch gas gan yr holl genhedloedd oherwydd fy enw i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant: a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe'ch traddodir i gael eich cosbi a'ch lladd, a chas fyddwch gan bob cenedl o achos fy enw i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y'ch traddodant chwi i orthrymder, ac a'ch lladdant; a chwi a gasheir gan yr holl genedloedd o herwydd fy enw I.