Matthew 25:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thra oedent yn myned i bryny, y daeth y priawd: a’r ei oedd yn parat, aethon i mywn y gyd ac ef i’r priodas, ac a gaywyt y porth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A thra’r oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodas-fab; ac y rhai parod a aethant i mewn gydag ef i’r briodaswledd, a chauwyd y drws.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan oeddent ar eu ffordd i brynu, daeth y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i’r neithior, a chaewyd y drws.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i'r briodas: a chaewyd y drws.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma'r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i'r wledd briodas gydag e, a dyma'r drws yn cael ei gau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A thra yr oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a'r rhai oedd barod a aethant i fewn gydag ef i'r briodas‐wledd; a chauwyd y drws.