Matthew 25:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys teyrnas nefoedd ys y val dyu yn myned‐i‐wlad‐bell, a alwei ei weision, ac a roes ei dda attwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys yn y modd y bu i ŵr yn myned i wlad ddieithr, alw ei weision ef a thraddodi iddynt ei dda:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys y mae fel dyn yn mynd oddi cartref, a alwodd ei weision a rhoi i’w gofal ei eiddo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan ddaw'r Un nefol i deyrnasu, bydd yr un fath â dyn yn mynd oddi cartref: Galwodd ei weision at ei gilydd a rhoi ei eiddo i gyd yn eu gofal nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Y mae fel dyn a oedd yn mynd oddi cartref ac a alwodd ei weision a rhoi ei eiddo yn eu gofal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys bydd fel dyn yn myned ymaith: galwodd ei weision ato, ac a roddodd ei feddiannau iddynt.