Matthew 25:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac i vn y rhoddes bemp talent, ae i arall ddwy, ac i arall vn, i bop vn erwyð ei ’rym, ac yn y van yddaeth o y gartref.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i un y rhoddodd bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac aeth i wlad ddieithr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac i un fe roes bum talent, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn ôl ei allu, ac aeth oddi cartref.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd swm arbennig yng ngofal pob un yn ôl ei allu — pum talent (hynny ydy tri deg mil o ddarnau arian) i un, dwy dalent (hynny ydy deuddeg mil) i un arall, ac un dalent (hynny ydy chwe mil) i'r llall. Wedyn aeth i ffwrdd ar ei daith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I un fe roddodd bum cod o arian, i un arall ddwy, i un arall un, i bob un yn l ei allu, ac fe aeth oddi cartref.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac i un y rhoddodd efe bum' talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ol ei allu ei hun; ac efe a aeth ymaith.