Matthew 25:20 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno y daeth hwn a dd erbynesei bemp talent, ac a dduc bemp talent eraill, gan, ddywedyt, Arglwydd, pemp talent a roist attaf: wele, yr enilleis a hwy bemp talent ereill.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y bum talent, dug atto bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a draddodaist i mi; wele, pum talent eraill a ynnillais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato’r un a gawsai’r pum talent a dwyn pum talent eraill, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, pum talent a roddaist i’m gofal; dyma bum talent eraill a enillais.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r un oedd wedi derbyn y pum talent yn dod a dweud wrtho, ‘Feistr, rhoist ti dri deg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud tri deg mil arall.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr un a dderbyniodd bum cod a chyflwyno iddo bump arall. 'Meistr,' meddai, 'rhoddaist bum cod o arian yn fy ngofal; dyma bum cod arall a enillais i atynt.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth yr hwn a dderbyniodd bum' talent, ac a ddug bum' talent ereill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum' talent a roddaist i mi: wele, pum' talent ereill mi a ennillais.