Matthew 25:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot ei Arglwydd wrthaw, Da‐ iavvn was da a’ ffyðlawn, Ys buost ffyddlawn yn ychydig ion, mi ath ’osodaf di vn oruchaf ar lawer: dyre d y mewn i lawenydd dy Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon; ar ychydig y buost ffyddlon, ar lawer y’th osodaf di; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddai ei arglwydd wrtho, ‘Da, was da a ffyddlon! Buost ffyddlon ar ychydig, gosodaf di ar lawer; dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Da iawn ti!’ meddai'r meistr, ‘Rwyt ti'n weithiwr da, a galla i ddibynnu arnat ti! Rwyt ti wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, felly dw i'n mynd i roi llawer iawn mwy o gyfrifoldeb i ti. Tyrd gyda mi i ddathlu!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Ardderchog, fy ngwas da a ffyddlon,' meddai ei feistr wrtho, 'buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlawn: buost ffyddlawn dros ychydig, mi a'th osodaf dros lawer: dos i fewn i lawenydd dy arglwydd.