Matthew 25:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hwn a dd erbyniesei ddwy dalent, a ddaeth ac a ddyuot, Arglwydd, dwy dalent a roist ataf: wele ddwy ereill a eneilleis ac wynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod atto o’r hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, dywedodd, Arglwydd, dwy dalent a draddodaist i mi: wele, dwy dalent eraill a ynnillais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth ato hefyd yr un a gawsai’r ddwy dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, dwy dalent a roddaist i’m gofal; dyma ddwy dalent eraill a enillais.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn dwy dalent yn dod ac yn dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddeuddeg mil o ddarnau arian yn fy ngofal i. Dw i wedi llwyddo i wneud deuddeg mil arall.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth yr un 'r ddwy god, a dywedodd, 'Meistr, rhoddaist ddwy god o arian yn fy ngofal; dyma ddwy god arall a enillais i atynt.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth hefyd yr hwn a dderbyniasai y ddwy dalent, gan ddywedyd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist i mi: wele, dwy dalent ereill mi a ennillais.