Matthew 25:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno hwn a dd erbynesei ’r vn talent, a ddaeth ac a ddyvot: Arglwydd, ys gwydwn mai dyn caled oeddyt, yn medi lle ny’ s heyaist, ac yn cascly, lle ny ’oyscereist:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod atto hefyd o’r hwn a dderbyniasai yr un dalent, dywedodd, Arglwydd, adwaenwn di mai gŵr caled wyt, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth ato hefyd yr un a gawsai’r un dalent, a dywedodd, ‘Arglwydd, deellais dy fod yn ddyn caled, yn medi lle ni heuaist, ac yn casglu o’r lle ni wasgeraist;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a dderbyniasai'r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wedyn dyma'r un oedd wedi derbyn un dalent yn dod. ‘Feistr,’ meddai, ‘Mae pawb yn gwybod dy fod ti'n ddyn caled. Rwyt ti'n ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth yr un oedd wedi derbyn un god, a dywedodd, 'Meistr, gwyddwn dy fod yn ddyn caled, yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hwn hefyd a dderbyniasai yr un dalent a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, mi a'th adwaenwn di, mai dyn caled ydwyt, yn medi lle nis hauaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: