Matthew 25:26 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ ei Arglwydd a atepawdd ac a ddyvot wrthaw, Ti was drwc, a’ dioc, gweddyt’ vy‐bot yn meti lle ny’s heuais, ac yn cascly lle ny ’oyscereis.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Was drwg a diog, gwyddit fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu lle ni wasgerais;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd ei arglwydd iddo, ‘Was drwg a diog, ti wyddit, ai e, fy mod yn medi lle ni heuais, ac yn casglu o’r lle ni wasgerais?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dyma'r meistr yn ei ateb, ‘Y cnaf diog, da i ddim! Dw i'n ddyn caled ydw i — yn ecsbloetio pobl ac yn gwneud elw ar draul eu gwaith caled nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd ei feistr ef, 'Y gwas drwg a diog, yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn medi lle heuodd eraill ac yn casglu lle gwasgarodd eraill.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, a wyddaist fy mod yn medi lle nis hauais, ac yn casglu lle ni wasgerais?