Matthew 25:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys i bob vn a vo ganthaw, y rhoddir, ac ef gaiff ehelaethrwydd, ac y gan hwn ny’ d oes ganthaw, ys hyn ’sy ganthaw, a ddugir y arno.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys i bob un y sydd a chanddo, y rhoddir ac y bydd gorlawnder; ac oddiar yr hwn nad oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymmerir oddi arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys i’r neb sydd ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon; ond y neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn sydd ganddo a gymerir oddi arno.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy, a bydd ganddyn nhw ddigonedd. Ond am y rhai sy'n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd i bawb y mae ganddo y rhoddir, a bydd ar ben ei ddigon, ond oddi ar yr hwn nad oes ganddo fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir iddo, ac efe a gaiff yn helaeth: eithr yr hwn nid oes ganddo — ïe, dygir oddiarno yr hyn sydd ganddo.