Matthew 25:30 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny tavlwch y gwas anvuddiol i’r tywyllwch eithav: yno y bydd wylofain ac yscyrnygy dannedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r gwas anfuddiol bwriwch allan i’r tywyllwch mwyaf allanol, yno y bydd y wylofain a’r rhingcian dannedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac am y gwas anfuddiol, bwriwch ef i’r tywyllwch tu allan; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Taflwch y gwas diwerth i'r tywyllwch, lle bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bwriwch y gwas diwerth i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bwriwch allan y gwas anfuddiol i'r tywyllwch eithaf, yno y bydd yr wylofain a'r rhincian dannedd.