Matthew 25:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ðel Map y dyn yn ei ’ogoniant a’ ei oll Angelion sainct avvl y gyd ac ef, yno ydd eistedd ar eisteddfa ei ’ogoniant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond pan ddelo Mab y Dyn yn Ei ogoniant, a’r holl angylion gydag Ef, yna yr eistedd ar orseddfaingc Ei ogoniant;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan ddêl Mab y dyn yn ei ogoniant a’r holl angylion gydag ef, yna yr eistedd ar ei orsedd ogoneddus;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pan fydd Mab y Dyn yn dod yn ôl, bydd yn dod fel brenin i deyrnasu. Bydd yn dod mewn ysblander, a'r holl angylion gydag e, ac yn eistedd ar yr orsedd hardd sydd yno ar ei gyfer yn y nefoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddelo Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl Angelion gydag ef, yna yr eistedda ar orsedd ei ogoniant;