Matthew 25:32 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ geyr y vron ef y cynnullir yr oll genedloedd, ac ef y gohana hwy y wrth y gylydd, me g is y didol y bugail y defait y wrth y geifr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chyd-gesglir ger Ei fron Ef yr holl genhedloedd, a didola Efe hwynt oddi wrth eu gilydd, fel y mae’r bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chesglir ger ei fron yr holl genhedloedd, a didola ddynion oddi wrth ei gilydd, fel y bydd bugail yn didoli’r defaid oddi wrth y geifr,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola'r bugail y defaid oddi wrth y geifr:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o'i flaen, a bydd yn eu rhannu'n ddau grŵp fel mae bugail yn gwahanu'r defaid a'r geifr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chydgesglir ger ei fron ef yr holl genedloedd; ac efe a'u didola hwynt oddiwrth eu gilydd, megys y didola bugail y defaid oddiwrth y geifr;