Matthew 25:40 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Brenhin a etyp, ac a ddyweit wrthwynt, Yn wir y dywedaf ychwi, yn gymeint a gwneythy d o hanoch ir vn lleiaf om broder hynn, ys gwnaethoch i mi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, y Brenhin a ddywaid wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, Cymmaint ag y’i gwnaethoch i un o’r rhai hyn, Fy mrodyr lleiaf, i Myfi y’i gwnaethoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac etyb y Brenin iddynt, ‘Yn wir meddaf i chwi, yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’m brodyr lleiaf hyn, i mi y gwnaethoch.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â'i wneuthur ohonoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu'r person lleiaf pwysig sy'n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bydd y Brenin yn eu hateb, 'Yn wir, 'rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, mor bell ag y gwnaethoch hyn i un o'm brodyr, ïe, y rhai lleiaf, i mi y gwnaethoch.