Matthew 25:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyweit ef wrth yr ei vo ar yr llavv aswy, Tynnwch y wrthyf yr ei melltigedic, ir tan tragyvythawl, yr hwn a paratowyt i ddiavol, ac y’w angelion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywaid Efe hefyd wrth y rhai ar yr aswy, Ewch oddi Wrthyf, felldigedigion, i’r tân tragywyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol ac i’w angylion;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna y dywed wrth y rhai ar yr aswy, ‘Ewch oddi wrthyf dan felltith i’r tân tragwyddol a baratowyd i’r diafol a’i angylion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i'w angylion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Yna bydd yn dweud wrth y rhai sydd ar ei ochr chwith, ‘Dych chi wedi'ch melltithio! Ewch i ffwrdd oddi wrtho i, i'r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i'r diafol a'i gythreuliaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, 'Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tn tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed efe wrth y rhai ar y llaw aswy, Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol, yr hwn sydd wedi ei barotoi i'r Diafol, ac i'w Angelion.