Matthew 25:44 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepant wy hefyt yðo, gan ddywedyt, Arglwydd, pa bryd ith welsam yn newynoc, ai yn sychedic, ai yn ddyn diethr, ai yn noeth, ai yn glaf, ai yn‐carchar, ac ny buam ith wei ni?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna yr attebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom Di â chwant bwyd Arnat, neu â syched Arnat, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yngharchar, ac na weiniasom i Ti?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna yr atebant hwythau, ‘Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog neu’n sychedig neu’n ddyn dieithr neu’n noeth neu’n glaf neu yng ngharchar heb weini iti?’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A byddan nhw'n gofyn iddo, ‘Arglwydd, pryd welon ni ti'n llwgu neu'n sychedig, neu'n nabod neb neu'n noeth neu'n sâl neu yn y carchar, a gwrthod dy helpu di?’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna atebant hwythau: 'Arglwydd,' gofynnant, 'pryd y'th welsom di'n newynog neu'n sychedig neu'n ddieithr neu'n noeth neu'n glaf neu yng ngharchar heb weini arnat?'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr atebant hwythau hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y'th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddyeithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yn ngharchar, ac ni weiniasom i ti?