Matthew 25:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei pruddiou a atepesant, gan ddywedyt, Rac na bo digon i ni ac y chwi the: ewch yn hytrach at yr ei ’r ’sy yn gwerthy, a’ phrynwch y chwi ych hun ain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac attebodd y rhai call, gan ddywedyd, Nid felly, rhag ysgatfydd na byddo digon i ni ac i chwi; ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd y rhai call, ‘Efallai na bydd dim digon i ni ac i chwithau; gwell ichwi fynd at y gwerthwyr a phrynu i chwi eich hunain.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Na wir,’ meddai'r lleill, ‘fydd gan neb ddigon wedyn. Rhaid i chi fynd i brynu peth yn rhywle.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd y rhai call, 'Na yn wir, ni fydd digon i ni ac i chwithau. Gwell i chwi fynd at y gwerthwyr a phrynu peth i chwi eich hunain.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai doeth a atebasant, gan ddywedyd, Rhag na fyddo digon i ni ac i chwithau, ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.