Matthew 26:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a wybu, ac a ddyvot wrthwynt, Paam ydd ych yn molesty yr wreic? can ys hi a weithiawdd weithret ða arnaf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan wybod o’r Iesu, dywedodd wrthynt, Paham mai blinder a berwch i’r wraig? Canys gwaith da a wnaeth hi Arnaf;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A deallodd yr Iesu, a dywedodd wrthynt, “Paham y perwch flinder i’r wraig? Canys gweithred hardd a wnaeth hi arnaf i;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei ddweud, ac meddai wrthyn nhw, “Gadewch lonydd i'r wraig! Mae hi wedi gwneud peth hyfryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Sylwodd Iesu ar hyn a dywedodd wrthynt, "Pam yr ydych yn poeni'r wraig? Oherwydd gweithred brydferth a wnaeth hi i mi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn peri blinder i'r wraig? Canys hi a weithiodd weithred dda mewn perthynas a mi.