Matthew 26:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys lle y tywalltawdd hi yr irait hwn ar vyg‐corph, er mwyn vy‐claðedigaeth hi gwnaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys wrth dywallt o honi yr ennaint hwn ar Fy nghorph, er Fy mharottoi i’r bedd y gwnaeth hi hyny;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys hon, wrth roi’r ennaint hwn ar fy nghorff, erbyn fy nghladdu y gwnaeth hynny.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i'm claddu i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth dywallt y persawr yma arna i mae hi wedi paratoi fy nghorff ar gyfer ei gladdu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wrth dywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, fy mharatoi yr oedd hi ar gyfer fy nghladdu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hi yn tywallt yr enaint hwn ar fy nghorff, a'i gwnaeth ar gyfer fy nghladdu.