Matthew 26:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac a ddyvot vvrthynt, Pabeth a rowch i mi, a’ mi y rroddaf ef y‐chwy? Ac wy a’ osodesont iddaw ddec arugain o ariant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth a ewyllysiwch ei roddi i mi, ac myfi a’i traddodaf Ef i chwi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd, “Beth a rowch i mi, am i mi ei draddodi ef i chwi?” Pwysasant hwythau iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a gofyn iddyn nhw, “Faint wnewch chi dalu i mi os wna i ei fradychu e?” A dyma nhw'n cytuno i roi tri deg darn arian iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dweud, "Beth a rowch imi os bradychaf ef i chwi?" Talasant iddo ddeg ar hugain o ddarnau arian;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
gan ddywedyd, Pa beth ydych yn foddlon i roddi i mi, a myfi i chwi a'i traddodaf ef? A hwy a bwysasant iddo ddeg ar hugain o arian