Matthew 26:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar y dydd cyntaf o wyl y bara‐ croew, y discipulon a ðaethant at yr Iesu gan ddywedyt wrthaw, P’le y myny i ni paratoi iti y vwyta ’r Pasc?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ar y dydd cyntaf o’r bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi barottoi o honom i Ti i fwytta’r Pasg?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar ddydd cyntaf gŵyl y bara croyw daeth y disgyblion at yr Iesu, a dywedyd, “Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta'r pasg?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ddiwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw, gofynnodd y disgyblion i Iesu, “Ble rwyt ti am fwyta swper y Pasg? — i ni fynd i'w baratoi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar ddydd cyntaf gu373?yl y Bara Croyw daeth y disgyblion at Iesu a gofyn, "Ble yr wyt ti am inni baratoi i ti fwyta gwledd y Pasg?".
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ar ddydd cyntaf y Bara Croyw, y Dysgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, Pa le yr ewyllysi i ni barotoi i ti fwyta y Pasc?