Matthew 26:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yntef a ddyuot, Ewch ir dinas at ryw vn, a dywedwch wrthaw, Yr athro a ddywait, Vy amser ys ydd agos, cyd a thi y cynhaliaf, y Pasc mi am discipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Yr Athraw a ddywaid, Fy amser sydd agos; yn dy dŷ di y cadwaf y Pasg ynghyd â’m disgyblion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “Ewch i’r ddinas at hwn a hwn, a dywedwch wrtho, ‘Mae’r Athro’n dywedyd, Y mae fy amser yn ymyl; gyda thi y cadwaf y pasg ynghyd â’m disgyblion’.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yntau a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a'm disgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ewch i'r ddinas at hwn a hwn,” meddai. “Dwedwch wrtho: ‘Mae'r athro'n dweud fod yr amser wedi dod. Mae am ddathlu'r Pasg gyda'i ddisgyblion yn dy dŷ di.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yntau, "Ewch i'r ddinas at ddyn arbennig a dywedwch wrtho, 'Y mae'r Athro'n dweud, "Y mae fy amser i'n agos; yn dy du375? di yr wyf am gadw'r Pasg gyda'm disgyblion."'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, Ewch i'r Ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae yr Athraw yn dywedyd, Fy adeg sydd yn agos: gyda thi y cadwaf y Pasc gyda'm Dysgyblion.