Matthew 26:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac gwedy ei mynet hi yn hwyr, ef a eisteddawdd i lawr gyd a’r dauddec.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwyr wedi digwydd, lled-orweddodd Efe wrth y ford ynghyd â’i ddeuddeg disgybl;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddi hwyrhau yr oedd yn eistedd wrth y bwrdd gyda’r deuddeg disgybl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda'r deuddeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd gyda'r deuddeg disgybl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyda'r nos yr oedd wrth y bwrdd gyda'r Deuddeg.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan ddaeth yr hwyr, yr oedd efe yn eistedd gyda'r Deuddeg Dysgybl.