Matthew 26:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr aethant yn athrist dros ben, ac a ddechraesont bop‐vn ddywedyt wrthaw. Ac myvi Arglwydd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi eu tristhau yn ddirfawr, dechreuasant ddweud Wrtho, pob un o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A than ofidio’n ddirfawr dechreuasant ddywedyd wrtho bob un ac un, “Nid myfi yw, Arglwydd?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw'n drist iawn, ac yn dweud wrtho, un ar ôl y llall, “Meistr, dim fi ydy'r un, nage?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan dristu yn fawr dechreusant ddweud wrtho, bob un ohonynt, "Nid myfi yw, Arglwydd?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwythau yn drist iawn a ddechreuasant ddywedyd wrtho, un ac un, Ai myfi ydyw, Arglwydd?