Matthew 26:24 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Diau Map y dyn a gerdda, mal y mae yn ercrivenedic o hanaw, anid gwae ’r dyn hwnaw, trwy ’r hwn y bradycher Map y dyn: ys da vesei ir dyn hwnaw, pe na’s genesit erioet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Mab y Dyn yn wir sy’n myned fel yr ysgrifenwyd am Dano; ond gwae’r dyn hwnw trwy’r hwn y mae Mab y Dyn yn cael Ei draddodi; da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mab y dyn yn wir sy’n myned fel y mae’n ysgrifenedig amdano, ond gwae’r dyn hwnnw y bradychir Mab y dyn trwyddo; da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw yn union fel mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud. Ond gwae'r un sy'n mynd i'm bradychu i! Byddai'n well arno petai erioed wedi cael ei eni!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Mab y Dyn yn wir yn ymadael, fel y mae'n ysgrifenedig amdano, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir Mab y Dyn ganddo! Da fuasai i'r dyn hwnnw petai heb ei eni."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mab y Dyn yn wir sydd yn ymadael, fel y mae wedi ei ysgrifenu am dano; eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae Mab y Dyn yn cael ei fradychu: Da fuasai iddo pe nas ganesid y dyn hwnw.