Matthew 26:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno Iudas yr hwn y bradychawdd ef, a atepawdd ac a ddyvot, Ai myvi yw ef, Athro? Ef a ddyvot wrthaw, Ty ei dywedaist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, Iwdas, yr hwn oedd yn Ei draddodi Ef, a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Rabbi?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Iwdas, ei fradychwr, “Nid myfi yw, Rabbi?” Medd ef wrtho, “Ti sy’n gofyn.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwdas, yr hwn a'i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma Jwdas, yr un oedd yn mynd i'w fradychu, yn dweud, “Rabbi, dim fi ydy'r un, nage?” “Ti sydd wedi dweud,” atebodd Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jwdas ei fradychwr, "Nid myfi yw, Rabbi?" Meddai Iesu wrtho, "Ti a ddywedodd hynny."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Judas y Bradychwr a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi ydyw, Rabbi? Efe a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.