Matthew 26:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi ddywedaf wrthych, nad yfwyf o hynn allan o’r ffrwyth hwn y wynwydden yd y dydd hwnw, pan ydd yfwyf ef yn newydd gyd a chwi yn‐teyrnas vy‐Tad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedaf wrthych, Nid yfaf ddim, o hyn allan, o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnw pan yfwyf ef gyda chwi, yn newydd, yn nheyrnas Fy Nhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddaf i chwi, nid yfaf o hyn allan o’r ffrwyth hwn i’r winwydden hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wir i chi — fydda i ddim yn yfed y gwin yma eto nes daw'r dydd pan fydda i'n ei yfed o'r newydd gyda chi pan fydd fy Nhad yn teyrnasu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o hwn, ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfaf ef yn newydd gyda chwi yn nheyrnas fy Nhad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o gwbl o hyn allan o gynnyrch hwn y winwydden hyd y dydd hwnw pan yfaf ef gyda chwi yn newydd yn Nheyrnas fy Nhad.