Matthew 26:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymgynnullawdd yr Archoffeiriait a’r Scrivennyddion, a’ Henyddion y popul i nauað yr Archoffeiriat, a elwit Caiaphas
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y casglwyd ynghyd yr archoffeiriaid ac henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y pryd hynny ymgynullodd yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl yng nghyntedd yr archoffeiriad a elwid Caiaffas,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr un adeg, roedd y prif offeiriaid ac arweinwyr Iddewig eraill yn cyfarfod ym mhalas Caiaffas yr archoffeiriad,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna daeth y prif offeiriaid a henuriaid y bobl ynghyd yng nghyntedd yr archoffeiriad, a elwid Caiaffas,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna yr ymgasglodd yr Archoffeiriaid, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas: