Matthew 26:31 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyvot yr Iesu yr wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m pleit i: canys escrivenedic yw, Trawaf y bugail, a’ deveit y vagat a ’oyscerir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Yr oll o honoch chwi a dramgwyddir Ynof yn y nos hon; canys ysgrifenwyd, “Tarawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna dywed yr Iesu wrthynt, “Fe’ch tramgwyddir chwi oll ynof i heno; canys y mae’n ysgrifenedig, Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y ddiadell.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi i gyd yn mynd i droi cefn arna i heno” meddai Iesu wrthyn nhw. “Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Bydda i'n taro'r bugail, a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Iesu wrthynt, "Fe ddaw cwymp i bob un ohonoch chwi o'm hachos i heno, oherwydd y mae'n ysgrifenedig: 'Trawaf y bugail, a gwasgerir defaid y praidd.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yna y dywed yr Iesu wrthynt, Chwi oll a rwystrir ynof fi y nos hon; canys y mae yn ysgrifenedig:— Tarawaf y bugail, A defaid y praidd a wasgerir ar led.