Matthew 26:33 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac Petr atepawdd, ac a ddyvot wrthaw, Pe rhan i bawp ac ymrwystro oth pleit ti, eto ni ’im rhwystrir i byth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Os “yr oll a dramgwyddir Ynot,” myfi ni’m tramgwyddir byth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond atebodd Pedr iddo, “Os tramgwyddir pawb ynot ti, ni’m tramgwyddir i byth.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid di, eto ni'm rhwystrir i byth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn dweud yn bendant, “Wna i byth droi cefn arnat ti, hyd yn oed os bydd pawb arall yn gwneud hynny!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Pedr ef, "Er iddynt gwympo bob un o'th achos di, ni chwympaf fi byth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Phetr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb ynot ti, myfi ni rwystrir byth.