Matthew 26:34 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr Iesu a ðyvot wrthaw, Yn wir y dywedaf wrthyt, mae yr nos hon, cyn canu yr ceilioc, i’m gwedy deirgwaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir y dywedaf wrthyt, Yn y nos hon, cyn i geiliog ganu, tair gwaith y gwedi Fi.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ebe’r Iesu wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heno, cyn i’r ceiliog ganu, ti a’m gwedi deirgwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nos hon, cyn canu o'r ceiliog, y'm gwedi deirgwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Wir i ti,” meddai Iesu wrtho, “heno, cyn i'r ceiliog ganu, byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di'n fy nabod i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai Iesu wrtho, "Yn wir, 'rwy'n dweud wrthyt y bydd i ti heno, cyn i'r ceiliog ganu, fy ngwadu i deirgwaith."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, yn y nos hon, cyn canu o geiliog, teirgwaith ti a'm gwedi I.