Matthew 26:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Petr a ðyvot wrthaw, Pe gorvyddei i mi varw gyd a thi, eto ny’th wadaf. Ar vn modd hefyt y dyvot yr oll ddiscipulon.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedodd Petr Wrtho, Hyd yn oed os ynghyda Thi y bo rhaid i mi farw, Tydi ni wadaf ddim. Yn yr un modd yr holl ddisgyblion hefyd a ddywedasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Medd Pedr wrtho, “Hyd yn oed os rhaid imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim.” Felly hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Pedr, “Na! Wna i byth wadu mod i'n dy nabod di! Hyd yn oed os bydd rhaid i mi farw gyda thi!” Ac roedd y disgyblion eraill i gyd yn dweud yr un peth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Hyd yn oed petai'n rhaid imi farw gyda thi," meddai Pedr wrtho, "ni'th wadaf byth." Ac felly y dywedodd y disgyblion i gyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Petr yn dywedyd wrtho, Pe angenrhaid i mi farw gyda thi, ni'th wadaf ddim. Yr un modd y dywedodd yr holl Ddysgyblion.